Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Hydref 2023
Amser:
09.00 -
15.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13514
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Luke Fletcher AS Joel James AS Sam Rowlands AS |
Tystion: |
Jane Dodds AS Vikki Howells AS Altaf Hussain AS Sioned Williams AS Elaina Chamberlain, Llywodraeth Cymru Gareth McMahon, Llywodraeth Cymru Michael Kay, Llywodraeth Cymru Sarah Wymer, Llywodraeth Cymru Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Stuart Evans, Llywodraeth Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Ruth Meadows, Llywodraeth Cymru Joanna Valentine, Llywodraeth Cymru Lorna Hall, Deputy Director for Equality and Human Rights, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Clerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Llinos Madeley (Clerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS.
1.3 Dirprwyodd Vikki Howells AS ar ran Carolyn Thomas AS.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid - Cyllideb Ddrafft 2024-25
2.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft 2024-25.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4, 5, 6, 7 a 10
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Craffu deddfwriaethol – diweddariad
4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn hyfforddiant gloywi ar waith craffu deddfwriaethol.
5 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - briff technegol gan Lywodraeth Cymru
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol wedi'i harwain gan swyddogion Llywodraeth Cymru:
Michael Kay, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Bil - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Etholiadau
Elaina Chamberlain, Arweinydd Polisi: Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol
Sarah Wymer, Rheolwr y Bil
Gareth McMahon, Uwch-gyfreithiwr y Llywodraeth: Gwasanaethau Cyfreithiol
6 Y Dull o Graffu
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd arno.
7 Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol - trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
8 Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Ruth Meadows, Cyfarwyddwr dros-dro ar Ymateb I Wcráin
Joanna Valentine, Dirprwy Cyfarwyddwr, Is-adran Llety Trosiannol - Wcráin
Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y canlynol:
· adborth ar gynnydd mewn perthynas â throi lleoliadau priodol yn drefniadau llety masnachol, os na fydd taliadau diolch ar gael ym mlwyddyn 3;
· rhagor o fanylion am waith dadansoddi y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar y rhesymau dros wrthod llety;
· manylion cyfanswm y costau a dalwyd i CTM, ar ôl i’r holl ffigurau gael eu cysoni;
· manylion gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddadansoddi datganiadau blynyddol ar y grant a ddarperir i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu cartrefi (gan gynnwys llety modiwlaidd) ar gyfer y bobl sydd angen tai.
9 Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Stuart Evans, Pennaeth Hil; Ffydd a Chred; Polisi Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cymunedau a Threchu Tlodi
Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
10 Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip - trafod y dystiolaeth
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog am nifer o faterion a godwyd.
10.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith dilynol ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr.